Digwyddiad Gemau Sinematig: Y Diweddaraf i Gynhyrchwyr Ffilm a Theledu of the Art for Film and TV Producers Event

28 February 2018

Mae Creative Europe Desk UK Cymru yn cynnal y digwyddiad uchod fore Iau 15 Mawrth 2018 i gynhyrchwyr ffilm a theledu sy’n awyddus i ddatblygu Eiddo Deallusol a dysgu mwy am y diwydiant gemau.

Mae offer a thechnoleg newydd yn creu ffyrdd newydd o gysylltu â chynulleidfaoedd. Mae gemau fideo hefyd yn gweddu yn fwy fel ffurf ffilm.

Darganfyddwch y cyffindir lle mae’r ddau ddiwydiant yma’n cyfarfod yn y digwyddiad hwn sy’n cael ei gynnal yn Tramshed Caerdydd.

Dyma gyfle i glywed am y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant gemau, gweld y gemau modern diweddaraf a dysgu mwy am sut y mae’r diwydiant gemau a ffilm/teledu’n gallu gorgyffwrdd.

Mi fydd cyfle i brofi’r gemau diweddaraf, rhwydweithio a chyfarfod â gweithwyr proffesiynol yn y maes a all eich cynghori ar sut i ddatblygu’ch ffilm/prosiect teledu ar ffurf gêm.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ond rhaid rhagnodi lle (dolen i wefan Saesneg).

 

Cysylltu â ni