Diweddariad gan Gareth Williams, Cadeirydd TAC
23 March 2020
Mae’r sector yn profi cyfnod digynsail ac anodd tu hwnt ar hyn o bryd yn sgil lledaeniad coronafeirws Covid-19. Mae TAC yn gweithio i gefnogi’r aelodau drwy ddosbarthu gwybodaeth a chyfathrebu gydag S4C parthed gweithdrefnau sy’n newid yn gyson. Rydyn ni wrthi’n ysgrifennu at weinidogion yn Llywodraeth y DU, Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru i roi pwysau arnynt i sefydlu trefniadau ar fyrder i gefnogi pobl hunan-gyflogedig, yn gwmnïau ac yn unigolion, gyda phwyslais ar y sector cynhyrchu. Rydyn ni wedi cyfrannu at ymgyrch y Creative Industries Federation sy’n gohebu gyda’r Canghellor Rishi Sunak i’r perwyl hwn hefyd.
Ffynonellau gwybodaeth
Gwefan coronavirus Llywodraeth y DU
Cyngor gan Busnes Cymru (dan adain Llywodraeth Cymru)
Os oes gennych chi bryderon neu ymholiadau, cysylltwch â Luned Whelan ar e-bost neu drwy ffonio 07388 377478 ac mi wnawn ein gorau i helpu.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW