Dyfrig Davies wedi ei ethol yn Gadeirydd newydd TAC

27 July 2021

Dyfrig Davies

Dyfrig Davies

Mae TAC yn falch iawn o gyhoeddi mai Dyfrig Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni cynhyrchu Telesgop, fydd y Cadeirydd newydd o fis Hydref 2021 pan fydd Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media, yn camu i lawr o’r rôl ar ôl tair blynedd a hanner.

Mae Dyfrig Davies yn aelod o Gyngor TAC ers blynyddoedd lawer, ac mae’n Gadeirydd Urdd Gobaith Cymru yn ogystal ag yn gyfarwyddwr, cynhyrchyrchydd a chynhyrchydd gweithredol ar ddigwyddiadau byw a rhaglenni dogfen, sydd wedi dod ag enwebiadau a gwobrau iddo dros y blynynddoedd, gan gynnwys Gwobr Bafta Cymru yn 2020 am ‘The Prince and the Bomber’. Mae Dyfrig yn uwch gynhyrchydd ar y gyfres bobologaidd Ffermio ac ar ddarpariaeth Telesgop o Sioe Frenhinol Cymru.

Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: “Rydw i wrth fy modd mai Dyfrig fydd fy olynydd fel Cadeirydd TAC yn yr hydref. Ar ran Cyngor TAC, hoffwn ei groesawu i’r rôl, a gwn y bydd yn ei chyflawni yn ei ffordd gadarn, gytbwys ac adeiladol arferol. Mi fydd Dyfrig yn ymuno â thîm gweithredol newydd TAC, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y datblygiadau fydd ar y gweill i’r aelodaeth yn y dyfodol.ʺ

Dywedodd Dyfrig Davies: “Hoffwn ddiolch o galon i Gareth Williams am ei ymrwymiad i waith y Cadeirydd ers 2018. Rydyn ni fel Cyngor TAC yn gwerthfawrogi ei gyfraniad aruthrol i’n gwaith, sydd wedi codi proffil TAC yn sylweddol, yn enwedig ers dechrau cyfnod y pandemig. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fod yn Gadeirydd yn yr hydref, a pharhau i feithrin perthynas gref TAC gydag S4C a’r darlledwyr eraill, a gyda phartneriaid a rhanddeiliaid gwleidyddol a rheoliadol, a’r cyfan er budd ein holl aelodau yn y sector cynhyrchu yng Nghymru.ʺ

Pleidleisiodd Cyngor TAC mewn cyfarfod diweddar i newid cyfnod y Gadeiryddiaeth i flwyddyn o’r tair presennol, ac i greu swyddogaeth Dirprwy Gadeirydd, a fydd yn olynu’r Cadeirydd ar ddiwedd eu cyfnod. Mi fydd y Dirprwy Gadeirydd cyntaf yn cael eu hethol yng nghyfarfod Cyngor TAC ym mis Medi.

Am ymholiadau pellach, cysylltwch â Luned Whelan ar luned.whelan@tac.cymru neu 07388 377478.

Cysylltu â ni