Ethol Gareth Williams yn Gadeirydd newydd TAC
15 February 2018
Ethol Gareth Williams yn Gadeirydd newydd TAC
Heddiw, cyhoeddwyd etholiad Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media, yn Gadeirydd newydd ar Deledwyr Annibynnol Cymru, y gymdeithas fasnach sy’n cynrychioli sector teledu annibynnol yng Nghymru.
Mae Gareth yn olynu Iestyn Garlick, sy’n camu i lawr o arwain TAC yn dilyn Adolygiad Siarter diweddar y BBC ac yn ystod yr ymgyrch i ddiogelu dyfodol S4C.
Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol TAC ar 15 Chwefror yn Aberystwyth, ac mi glywodd aelodau TAC gyflwyniadau gan Owen Evans, Prif Weithredwr newydd S4C, a Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru.
Dywedodd Iestyn Garlick:
“Mi fuodd yn gyfnod prysur iawn o fod yn Gadeirydd TAC, ond gyda chymorth Cyngor TAC, rydyn ni wedi llwyddo i gyflawni ystod eang o weithgareddau. Mae Gareth wedi bod yn rhan flaenllaw o’r holl waith a gyflawnwyd gennym, ac rydw i’n falch o gamu i lawr gan wybod y bydd TAC yn ei ofal diogel.”
Dywedodd Gareth Williams:
“Mae’n fraint cael fy newis i olynu Iestyn. Mi hoffwn i, a phawb arall sy’n ymwneud â TAC, gofnodi ein diolch am ei waith diflino wrth hyrwyddo’r sector teledu annibynnol yng Nghymru. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio tuag at ganlyniadau’r Adolygiad o S4C, ac at gydweithio â Llywodraeth Cymru a San Steffan i hyrwyddo’r sector a’r diwydiannau creadigol ehangach.”
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW