Ffair Diwydiant Teledu Prifysgol De Cymru / RTS Cymru a Gwobrau Myfyrwyr RTS Cymru
27 November 2017
Atriwm Prifysgol De Cymru
31 Ionawr 2018
Estynnir gwahoddiad cynnes i aelodau TAC ac unrhyw gynhyrchwyr annibynnol eraill sydd â diddordeb mewn archebu stondin arddangos yn rhad ac am ddim yn y Ffair Diwydiant Teledu sy’n cael ei chynnal ar 31 Ionawr rhwng 2pm a 4pm yn yr Atriwm, Caerdydd.
Mi fydd nifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn ystod y dydd, a derbyniad diodydd am 5pm. Wedyn am 6pm, mi fydd RTS Cymru’n cynnal noson wobrwyo ei Gwobrau Teledu Myfyrwyr. Dyma fraslun o’r diwrnod ar hyn o bryd (gall newid):
10am – 1pm Cynhadledd Darlledu Digidol: Y Sinema
2pm – 4pm Ffair Diwydiant: Street (ger y caffi); Gweithdai: Y Stiwdio Deledu / Y Theatr
4pm – 5pm Panel y Diwydiant: Y Theatr
5pm – 6pm Derbyniad Diodydd: Street
6pm – 7pm Gwobrau Myfyrwyr RTS Cymru: Y Theatr
7pm – 8pm Siaradwr gwadd RTS Cymru (manylion i ddilyn)
Gweithdai:
Yn ogystal â rhedeg stondin, mi fydd cyfle i gynhyrchwyr siarad â’r myfyrwyr mewn grwpiau bach os yw hyn o dddiddordeb.
Gwobrau Myfyrwyr RTS Cymru – cyfle i noddi
Mi fydd yna bum categori o wobrau myfyrwyr yn ogystal â phedwar categori crefft, gyda chyfle i noddi’r gwobrau y tro hwn, am swm rhesymol. Mae cyfraniad ariannol yn golygu y caiff y wobr ei chyflwyno gan aelod o’r cwmni gyda chydnabyddiaeth o’i chefnogaeth a chaiff logo’r cwmni ei daflunio ar y sgrin yn y theatr. Cysylltwch â Hywel Wiliam am fanylion pellach am nawdd ac i archebu stondin.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW