Digwyddiad Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol yng Nghaerdydd

18 May 2016

Isod mae manylion digwyddiad Federasiwn y Diwydiannau Creadigol yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd ar 25 Mai.

Mae TAC yn annog aelodau i fynychu’r digwyddiad ac i roi eu barn ar anghenion y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

———————————————————–

CIF logo

Bydd Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol, y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau, diwydiannau creadigol ac addysg ddiwylliannol yn y DU, yng Nghaerdydd y mis hwn a byddwn yn trafod a yw strategaeth ddiwylliannol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant economaidd.

Bydd y Ffederasiwn yn dwyn ynghyd banel o siaradwyr arbenigol wrth i ni drafod y dirwedd ar gyfer y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn sgil etholiadau heddiw. Fel digwyddiad mawr cyntaf y Ffederasiwn yng Nghymru, bydd hwn yn agored i ddarpar aelodau o feysydd y celfyddydau, diwydiannau creadigol ac addysg ddiwylliannol yn ogystal ag aelodau presennol.

Ymunwch â ni ar gyfer noson o drafod  amserol a’r cyfle i rannu eich pryderon a’ch brwdfrydedd. Yn dilyn y digwyddiad, a gefnogir gan Barclays, caiff y mynychwyr gyfle i weld sioe Raddedigion 2016 Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a chael cyfle i gwrdd a chymdeithasu dros ddiodydd. Bydd y sioe hefyd ar agor cyn y digwyddiad.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys:
Phil George, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru
Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr, Comisiwn Dylunio Cymru
John Rostron, Cynhyrchydd Creadigol Annibynnol a Sylfaenydd Gŵyl Sŵn

Yr Athro Olwen Moseley, Deon Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Tîm Cyfryngau Barclays – Gweithdy Opsiynau Ariannu

Cyn y prif ddigwyddiad bydd Tîm Cyfryngau Barclays yn cynnal gweithdy byr yn ymdrin ag opsiynau ariannu.  Mae’r tîm wedi cefnogi’r sector cyfryngau am dros 30 o flynyddoedd ac mae ganddo Gyfarwyddwyr Cysylltiadau penodol, sy’n deall eich busnes, yn ymdrin â’r holl is-sectorau cyfryngau yn cynnwys hysbysebu, cyhoeddi, cerddoriaeth, teledu, darlledu a ffilm.

Gwahoddir mynychwyr i ymuno a thrafod sut y gall Barclays gefnogi eich anghenion o ran ariannu – mae’r strwythurau gaiff eu trafod yn cynnwys Benthyca Llif Arian, Cynhyrchu Teledu / Ffilm a Dyled Twf Uchel (Menter).

Manylion y Digwyddiad

Dyddiad: Dydd Mercher 25 Mai 2016
Amser: 6.00pm-8.30pm
Lleoliad: Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf, Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YB
Ffioedd Mynychu:  Fel ein digwyddiad mawr cyntaf yng Nghymru, bydd hwn am ddim ac yn agored i ddarpar aeladau o feysydd y celfyddydau, diwydiannau creadigol ac addysg ddiwylliannol yn ogystal ag aelodau presennol.
Sut i Gofrestru: I gofrestru ar gyfer y naill ddigwyddiad neu’r llall, anfonwch e-bost at y Ffederasiwn Diwydiannau Creadigol yn rsvp@creativeindustriesfederation.com gyda’ch enw a’ch sefydliad.

Cysylltu â ni