Galw am Wneuthurwyr Ffilmiau: Creu Cymunedau Cyfoes

21 December 2017

Cynllun celfyddydol cenedlaethol tair blynedd o hyd gan Gyngor Celfyddyau Cymru yw Creu Cymunedau Cyfoes. Ei nod yw adfywio drwy gyfrwng y celfyddydau, ac mae’n cael ei gynnal mewn saith lleoliad ledled Cymru. Nod Creu Cymunedau Cyfoes yw ymgorffori’r celfyddydau wrth galon nifer o brosiectau adfywio uchelgeisiol, arloesol, llawn dychymyg. Mae’r cynllun wedi galluogi i arferion artistig herio ystyr confensiynol adfywio, pensaernïaeth a dylunio er mwyn dylanwadu ar sut caiff gofod cymunedol a datblygu lleol eu rheoli a’u cynllunio. Gallwch weld y prosiectau ar y dudalen hon (cliciwch ar y bocsys).

Mi ddechreuodd y rhaglen yn 2014, ac erbyn hyn mae’n tynnu tua’r terfyn, gyda phrosiectau sy’n dod i ben rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf 2018.

Yn ystod gweddill y cyfnod , rydyn ni’n awyddus i gydweithio â gwneuthurwyr ffilmiau, timau gwneud ffilmiau neu gwmni cynhyrchu fideo i gyfleu naws y prosiect a’r hyn a ddysgwyd o’i weithredu. Bydd y broses yn golygu cydweithio â Chyngor Celfyddydau Cymru a chymuned Creu Cymunedau Cyfoes i benderfynu beth i’w gynnwys a pha themâu i’w dilyn.

Am wybodaeth bellach neu i ymgeisio, ewch i wefan Gwerthwch i Gymru.

Dyddiad cau: 29 Ionawr 2018 am 5:00pm.

Cysylltu â ni