Galwad Agored Clwstwr 2020 nawr yn fyw

22 April 2020

Oes gennych chi syniad a allai drawsnewid y sector sgrin a newyddion yng Nghymru? Os felly, hoffai Clwstwr i chi wneud eich gwaith ymchwil a datblygu gyda nhw.

Mae Clwstwr am ariannu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau sy’n ymdrin â heriau, gan gynnwys: archwilio ffyrdd newydd o adrodd straeon, ymgysylltu â chynulleidfaoedd a marchnadoedd a’u hadeiladu mewn ffyrdd newydd, a chreu ffyrdd newydd o weithio er mwyn creu modelau busnes cynaliadwy.

Dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb: 9.00 fore dydd Gwener 1 Mai 2020.

Ceir manylion pellach am gyllid ac ymgeisio ar wefan Clwstwr.

Cysylltu â ni