Gweinidog Swyddfa Cymru’n galw am allforio mwy o raglenni Cymraeg i hybu’r economi
10 March 2015
Datganiad i’r Wasg gan Lywodraeth y DU
Alun Cairns yn annog darlledwyr y DU a’r tu hwnt i brynu mwy o raglenni Cymraeg er mwyn cefnogi diwydiannau creadigol Cymru.
Heddiw (10 Mawrth), mi fydd y Gweinidog yn cynnal uwchgynhadledd ddarlledu yn y Doctor Who Experience ym Mae Caerdydd, gan ddod â darlledwyr a chynhyrchwyr annibynnol o Gymru a’r DU at ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu nifer y rhaglenni o Gymru ar y teledu.
Bydd yn annog gwneuthurwyr rhaglenni i arddangos ansawdd cynyrchiadau annibynnol yng Nghymru, yn gofyn i ddarlledwyr egluro sut maent yn comisiynu gwaith a sut i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael.
Mae gan Gymru hanes balch o gynhyrchu rhaglenni megis Y Gwyll/Hinterland, The Indian Doctor a Frozen at Christmas, sydd wedi cael effaith ar draws y DU a’r byd.
Mae’r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru yn llwyddiant byd-eang ac yn sbarduno twf. Mae’n cyflogi dros 50,000 o bobl ac yn creu trosiant blynyddol o dros £1 biliwn.
Bydd yr uwchgynhadledd yn adeiladu ar y mesurau mae Llywodraeth y DU eisoes wedi’u cymryd i gefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys gostyngiadau treth ar gyfer animeiddio, rhai rhaglenni teledu a gemau fideo o’r DU, yn ogystal â chefnogaeth i’r diwydiant ffilm yng Nghymru mewn marchnadoedd tramor drwy glustnodi contractau, tendrau a phrosiectau priodol.
Dywedodd Alun Cairns
Mae cwmnïau teledu Cymru yn cynhyrchu rhai o’r rhaglenni mwyaf cyffrous yn y DU ar hyn o bryd, ac mae gan y sector botensial enfawr i dyfu.
Mae rhaglenni fel Y Gwyll a The Indian Doctor eisoes wedi dangos ansawdd yr hyn sydd gennym i’w gynnig, ond rwyf am ehangu’r posibiliadau o gomisiynau rhyngwladol a ledled y DU i ragor o wneuthurwyr rhaglenni Cymru. Mae angen i ni fod yn uchelgeisiol.
Bydd uwchgynhadledd heddiw yn helpu cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru i ffynnu drwy sicrhau eu bod yn cael eu cysylltu â’r marchnadoedd ehangaf posibl. Mae pob rhan o’n cynllun economaidd tymor hir i ailgydbwyso’r economi ac ysgogi twf ym mhob sector a phob rhan o Cymru.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW