Gweithdy Hijinx, Prestatyn, 8 Hydref 2019
Cwmni theatr proffesiynol nid er elw ydy Hijinx. Mae’n castio actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth (LD/A) mewn cynyrchiadau sy’n ennill gwobrau lu ac yn teithio ledled y byd. Mae gan Hijinx rwydwaith o dros 60 o actorion proffesiynol drwy Gymru gyfan sydd ag anableddau dysgu neu ddatblygiadol, gan gynnwys Syndrom Down, awtistiaeth a Syndrom Asperger.
Mae Hijinx yn cynnig hyfforddiant cyfathrebu arbenigol i staff sy’n ymwneud â’r cyhoedd ac sy’n debygol o gwrdd â chyd-weithwyr neu glientiaid bregus. Mae’n hyfforddiant unigryw oherwydd mai actorion LD/A sy’n ei gyfleu, ar y cyd â hwylusydd niwrolegol nodweddiadol, ac mae bob amser yn weithdy rhyngweithiol, egnïol a chreadigol. Mae TAC a Hijinx wedi cydweithio i ddatblygu sesiwn hanner diwrnod penodol ar gyfer ein cyd-weithwyr yn y sector cynhyrchu. Dychwelwch y ffurflen isod i gofrestru’n fuan. Mae’r cyfle hyfforddi hwn yn debygol o fod yn boblogaidd iawn.
Dyddiad: Mawrth 8 Hydref 2019, 10.00-1.30
Lleoliad: Canolfan Nova, Beach Road West, Prestatyn LL19 7EY
Cost: Aelodau TAC: £120, eraill: £190
Dyddiad cau cofrestru: Gwener 27 Medi 2019
Ymholiadau: Luned Whelan, 07388 377478
Darperir te a choffi.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn: 07388 377478
Ebost: luned.whelan@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW