Gweithio yn China – digwyddiad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru 23 Tachwedd 2017

17 November 2017

Ar 23 Tachwedd o 13:30-16:30 yn Tramshed Tech, Caerdydd, bydd CRhC yn cynnal gweithdy ar gyfer cwmnïau ac artistiaid sy’n gweithio yn sectorau’r celfyddydau neu’r diwydiannau creadigol sydd eisoes yn gweithio yn China neu sydd â diddordeb mewn gwneud. Cadwch eich tocyn yma. Mae nifer gyfyngedig o docynnau ar gael.

Os na allwch chi gyrraedd y digwyddiad, gallwch ei wylio ar lif fyw ar ein tudalen Facebook. Archebwch docyn ar y ddolen Eventbrite uchod i roi gwybod y byddwch yn gwylio’r llif fyw.

Mae’r gweithdy’n berthnasol os ydych yn ystyried gwneud cais i fynd ar Daith Fasnachol Llywodraeth Cymru i Shanghai a Hong Kong ym mis Mawrth – gallwch fynegi eich diddordeb yma tan 1 Rhagfyr.

Croeso i bawb.

Cysylltu â ni