>

Holiadur busnes allforio gan Lywodraeth y DU – dyddiad cau 20 Mawrth 2017

14 March 2017

Yn dilyn Uwchgynhadledd Busnes Allforio Cymru yn gynharach y mis hwn, mae Llywodraeth y DU yn awyddus i glywed eich barn am yr heriau a’r rhwystrau sy’n eich wynebu pan fyddwch yn gweithio ac yn masnachu ym mhedwar ban byd. Mewn marchnad fyd-eang sy’n tyfu’n gyflym, mae potensial sylweddol i fusnesau o Gymru ymgysylltu â chwsmeriaid newydd a thiriogaethau proffidiol y tu hwnt i’r DU.

Nod y Llywodraeth yw i’r DU ddatblygu o ddifrif ym maes allforio. Drwy ofyn i gwmnïau yng Nghymru gwblhau’r holiadur cryno hwn, bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cynyddu ei dealltwriaeth o faterion y mae’n rhaid i gwmnïau ymwneud â nhw ar y lefel uchaf wrth geisio hwyluso mynediad i farchnadoedd byd-eang, a’u helpu i’w goresgyn yn y pen draw. Mynegwch eich barn isod (dolen allanol – mae’r holiadur yn Saesneg yn unig).

Dyddiad cau: 20 Mawrth 2017

Have your say 

Cysylltu â ni