Hysbyseb Swydd BOOM Cymru – Cynorthwyydd Cyfrifon

26 October 2023

Hysbyseb Swydd BOOM Cymru – Cynorthwyydd Cyfrifon

Cyflog – yn dibynnu ar brofiad.

Cytundeb – Penodedig (12 mis)

Wedi’i leoli yng Nghaerdydd gyda’r gallu i weithio’n hyblyg.

Dyma gyfle gwych i Gynorthwy-ydd Cyfrifon ymuno â thîm Cwmni Cynhyrchu Teledu llwyddiannus. Mae’r swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sy’n chwilio am yrfa ym maes Cyllid.

Bydd y cyfle i astudio ar gyfer cymhwyster cyfrifeg berthnasol ar gael i’r ymgeisydd.

Yn ddelfrydol byddai gennych gefndir mewn gweinyddu cyfrifon. Mae’r cwmni’n defnyddio pecyn meddalwedd cyfrifon Microsoft Navision ar hyn o bryd. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Boom yn rhan o ITV Studios ac yn un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf Cymru. Gyda’n bencadlys ym Mae Caerdydd, mae ein busnesau cynhyrchu, ôl-gynhyrchu, effeithiau gweledol a graffeg symudol yn darparu cynnwys i S4C, BBC, C4, ITV, C5, UKTV, Netflix a HBO.

Rhaid i’r ymgeisydd delfrydol fod yn:

  • Drylwyr ac yn drefnus
  • Gwneud gwaith cywir gyda llygad am fanylyn
  • Gallu cymryd cyfrifoldeb am dasgau a chyflawni gwaith o fewn terfynau amser
  • Meddu gallu cyfrifiadurol gyda sgiliau rhifedd rhagorol (rhaid meddu ar ddealltwriaeth dda o Excel)
  • Gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
  • Gallu cyfathrebu’n effeithlon gan ddefnyddio ystod o sgiliau i gefnogi staff o fewn y cwmni

Bydd dyletswyddau’r rôl yn cynnwys:

  • Cynnal rhediad dydd i ddydd y cyfrifon cyfriflyfr pryniant
  • Prosesu anfonebau
  • Monitro a datrys anfonebau sy’n destun dadl
  • Delio â’r holl alwadau ffôn, e-byst ac ymholiadau ynglŷn â thaliadau
  • Gweinyddu bancio a chysoniadau yn ôl yr angen
  • Cymorth gyda chyfriflyfr gwerthu, hawliadau treuliau a derbynebau cardiau credyd yn ôl yr angen
  • Bydd unrhyw ddyletswyddau eraill sydd eu hangen yn cael eu pennu gan y Rheolwr Cyllid

Gwnewch gais trwy anfon eich CV, llythyr i gyflwyno’ch hunan a disgwyliadau cyflog i hr@boomcymru.co.uk  erbyn 30ain Tachwedd 2023

Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.

Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom  (http://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).

Cysylltu â ni