Hysbyseb Swydd Boom – Ymchwilydd Y Sioe 2023
26 May 2023
Hysbyseb Swydd Boom – Ymchwilydd Y Sioe 2023Sgiliau ymchwilio? Trefnus a brwdfrydig? Mae cyfle cyffrous i ymchwilydd ymuno â chwmniau teledu Boom Cymru/Slam Media sy’n cynhyrchu darllediadau y Sioe Frenhinol i S4C o Fehefin 26ain – Gorffennaf 27ain.
Beth fydda i’n gwneud?
- Chwilio am gyfranwyr a straeon a threfnu’r cyfranwyr.
- Paratoi gwaith ymchwil i’r cyflwynwyr.
- Cyfrannu at amserlennu cynhyrchu.
- Cefnogi’r cynhyrchydd ar leoliad.
Y person delfrydol?
- Profiad o weithio fel ymchwilydd.
- Trefnus a thrylwyr, gyda sgiliau cyfathrebu da.
- Yn gallu siarad Cymraeg.
- Yn hapus i weithio fel aelod o dîm ond hefyd yn annibynnol.
Lleoliad: Swyddfa Caerdydd gyda’r posibilrwydd o weithio gartref ar adegau ac ar leoliad adeg wythnos Y Sioe Frenhinol. Ymgeisiwch drwy yrru CV a llythyr atodol at hr@boomcymru.co.uk erbyn 09:00yb ar 8.6.23, gan ddefnyddio Y SIOE 2023 fel cyfeirnod.
Mae Boom Cymru yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu pobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. Rydym yn ymroi i adlewyrchu a chynrychioli’r amrywiaeth a geir yn y Deyrnas Unedig ymhob agwedd o’n gwaith.
Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom Cymru a chaiff y wybodaeth a gyflenwir ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru (http://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/) ac Hysbysiad Preifatrwydd Slam Media (http://www.slam-media.co.uk/polisi-preifatrwydd/?lang=cy)
Byddwn yn cadw eich CV am 6 mis, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei ddileu yn gynharach.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW