Llwyddiant Aur yng Ngwobrau RTS Cymru 2020

28 February 2020

Llongyfarchiadau i Yeti Television, sy’n aelod o deulu Rondo Media, ar ennill categori rhaglenni plant gyda ‘Going for Gold‘ yn Noson Wobrwyo RTS Cymru, a gynhaliwyd yn Cineworld Caerdydd nos Iau 27 Chwefror 2020. Am y tro cyntaf, cafwyd gwobrau i’r diwydiant teledu yn ogystal â Gwobrau’r Myfyrwyr, sydd wedi eu rhoddi ers 25 mlynedd bellach. Enillodd ‘Going for Gold‘ wobr Bafta Cymru yn 2019 hefyd.

Llongyfarchiadau i bob un o’r enillwyr a phawb a enwebwyd, a diolch i bawb a gefnogodd y gwobrau eleni.

Cysylltu â ni