Llwyddiant i aelodau TAC gydag enwebiadau Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd 2021

15 June 2021

Llongyfarchiadau i aelodau TAC sydd wedi derbyn enwebiadau i restr fer Gwobrau Torc Rhagoriaeth Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd 2021. Mae’n wych gweld cynifer o raglenni mewn gwahanol gategorïau’n dod i’r brig wrth ystyried goreuon y flwyddyn anodd a aeth heibio.

Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: “Llongyfarchiadau gwresog i holl aelodau TAC sydd wedi eu henwebu. Mae’r sector cynhyrchu yng Nghymru wedi bod yn eithriadol o ddyfeisgar, gweithgar a chreadigol wrth barhau i greu rhaglenni o safon ac arloesi mewn cynhyrchu drwy gydol y pandemig. Mae’n galonogol iawn fod beirniaid yn cydnabod hyn wrth ddyfarnu enwebiadau. Bydda i’n edrych ymlaen at wylio’r noson wobrwyo.ˮ

Dyma restr o’r enwebiadau:

Adloniant: Côr Digidol Rhys Meirion (Cwmni Da)

Adloniant Ffeithiol: Iaith ar Daith (Boom Cymru)

Cerddoriaeth Fyw: Sioe yr Eisteddfod Goll (Orchard)

Comedi: Rybish (Cwmni Da)

Dogfen Chwaraeon: 47 Copa (Cwmni Da)

Dogfen Unigol: DRYCH: Eirlys, Dementia a Tim (Cwmni Da) / Hefyd wedi ei henwebu ar gyfer Gwobr Ysbryd yr Ŵyl

Drama: 35 Diwrnod (Boom Cymru)

Drama Fer: Cyswllt (Vox Pictures)

Dogfen Radio: Sir Tom’s Musical Years (Telesgop)

Hanes: Tân ar y Bont (Rondo Media)

Newyddion a Materion Cyfoes: Pawb a’i Farn – Amrywiaeth ac ymgyrch Black Lives Matter (Tinopolis)

Plant: Nadolig Deian a Loli (Cwmni Da)

Y Celfyddydau: Y Côr (Cwmni Da)

Cynhelir yr ŵyl yn ddigidol unwaith eto eleni o 7–9 Medi 2021.

Cysylltu â ni