Llwyddiant i aelodau TAC yn BAFTA Cymru 2020
26 October 2020
Llongyfarchiadau gwresog i aelodau TAC oedd yn enillwyr yng Noson Wobrwyo BAFTA Cymru neithiwr (25 Hydref 2020), mewn seremoni a gynhaliwyd ar-lein gydag Alex Jones yn cyflwyno. Daeth llwyddiant i:
– Boom Cymru gydag Emma Walford a Trystan Ellis-Morris yn rhannu gwobr y Cyflwynydd Gorau am Priodas Pum Mil
– Cwmni Da, mewn dau gategori. Enillwyd gwobr y Cyfarwyddwr Ffeithiol Gorau ar y cyd gan Siôn Aaron a Tim Lyn am Eirlys, Dementia a Tim, a chipiodd Deian a Loli wobr y Rhaglen Blant Orau am yr eildro
– Darlun am Ysgol Ni: Maesincla; Cyfres Ffeithiol Orau
– Dearheart am Cyrn ar y Mississippi; y Rhaglen Adloniant Orau
– Telesgop am The Prince and the Bomber; y Ddogfen Unigol Orau
Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu henwebu yn ogystal. Gallwch wylio’r seremoni ar sianel YouTube Bafta Cymru
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW