>

Llwyddiant i aelodau TAC yn Bafta Cymru 2021

24 October 2021

Llongyfarchiadau gwresog i aelodau TAC oedd yn enillwyr yn Noson Wobrwyo BAFTA Cymru nos Sul 24 Hydref 2021, mewn seremoni a gynhaliwyd ar-lein gydag Alex Jones yn cyflwyno. Daeth llwyddiant i:

  • Wildflame Productions am Strictly Amy: Crohn’s and Me am y Ddogfen Unigol Orau
  • Cwmni Da am Deian a Loli yng nghategori’r Rhaglen Blant Orau
  • Darlun am Dolig Ysgol Ni: Maesincla am Adloniant Gorau
  • Tinopolis am Newyddion a Materion Cyfoes Gorau am Pawb a’i Farn – Black Lives Matter;
  • Rondo Media am Britannia: Tân ar y Bont: Michael Kendrick Williams (Cynhyrchydd) yn y categori Newydd-ddyfodiad;

Llongyfarchiadau i’r enillwyr ac i bob un o’r cynyrchiadau a enwebwyd (rhestr isod yn ogystal â’r enillwyr uchod). Gallwch wylio’r seremoni ar sianel YouTube Bafta Cymru.

  • Boom Cymru: Mabinogi-ogi a Mwy yng nghategori Rhaglen Blant Orau a Priodas Pum Mil yn Adloniant Gorau;
  • Cwmni Da: Barry Jones am yr Awdur Gorau am Rybish;
  •  Tinopolis am y Cyflwynydd Gorau i Elin Fflur am Sgwrs dan y Lloer;
  • Vox Pictures am Un Bore Mercher yng nghategori Drama Deledu.

Cysylltu â ni