>

Llwyddiant i Aelodau TAC yng Ngwobrau RTS Cymru 2022

11 April 2022

Llongyfarchiadau mawr i aelodau TAC a enillodd yng Ngwobrau RTS Cymru 2022. Cynhaliwyd y seremoni nos Wener 8 Ebrill 2022 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd lle cafodd aelodau TAC 15 o enwebiadau.

Y cwmnïau a ddaeth i’r brig yn ystod y digwyddiad mawreddog oedd:

Torri Trwyddo 2020 Rachel Solomon, Boom Cymru

Plant 2021 My Life: Battle of the Ballroom, Yeti Television

Llwyfan Digidol Yn Y Garej: Phil Mills, Tinopolis (Facebook)

Cynhyrchiad Cyfnod Clo The Great House Giveaway, Chwarel

Newyddion a Materion Cyfoes 2021 John Owen: Cadw Cyfrinach, Wildflame

Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:

“Llongyfarchiadau mawr i holl aelodau TAC ar eu llwyddiant heno. Mae’r sector cynhyrchu teledu yn parhau i ffynnu ac mae wedi cynhyrchu cynnwys difyr, addysgiadol ac o safon wrth addasu’r ffordd o weithio i greu rhaglenni newydd, arloesol o dan amodau digynsail dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’n dda gweld y gwaith hwn yn cael ei gydnabod.”

Derbyniodd aelodau TAC yr enwebiadau canlynol hefyd:

Torri Trwyddo 2020 Euros Llŷr Morgan, Carlam Ltd

Torri Trwyddo 2021 Tayo Oguntonade, Chwarel

Plant 2021

Deian a Loli a Dygwyl y Meirw, Cwmni Da
Mabinogiogi – Clustiau’r March, Boom Cymru

Drama 2020 Un Bore Mercher 3 / Keeping Faith 3, Vox Pictures

Drama 2021 Yr Amgueddfa, Boom Cymru

Llwyfan Digidol Pa fath o Bobl, Boom Cymru

Cynhyrchiad Cyfnod Clo

Life Drawing Live!, Avanti Media
Priodas Pum Mil, Boom Cymru
Dim Ysgol: Maesincla, Darlun TV
DRYCH: Galar yn y Cwm, Carlam Ltd

Cysylltu â ni