>

Llwyddiant i Aelodau TAC yng Ngwobrau RTS Cymru 2023

3 May 2023

Llongyfarchiadau gwresog i aelodau TAC a ddaeth yn fuddugol yng Ngwobrau Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru 2023.  Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo flynyddol nos Wener 21 Ebrill 2023 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.

Cwmnïau TAC a ddaeth i’r brig ar y noson oedd:

Plant – Y Goleudy, Boom Plant

Comedi neu Adloniant – Hywel Gwynfryn yn 80, Slam Media

Digidol Gwreiddiol – Solo and Unsupported, Cwmni Da

Cyflwynydd y Flwyddyn – Chris Roberts (Cwmni Da)

Rheolwr Cynhyrchu (Ffeithiol) – Lowri Farr (Prosiect Pum Mil – Boom)

Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:

“Llongyfarchiadau gwresog i holl aelodau TAC ar eu llwyddiant yn y noson wobrwyo.  Mae’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru yn parhau i gynhyrchu cynnwys gwreiddiol o’r radd flaenaf o dan amgylchiadau sy’n dal i fod yn heriol ac anodd.  Mae’r seremoni hon yn ffordd dda o gydnabod yr holl waith caled sydd wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf.  Mae TAC yn falch iawn o gael cefnogi’r RTS a chael bod yn rhan o’r rheithgor eleni.”

Derbyniodd aelodau TAC yr enwebion canlynol hefyd:

Enwebion Plant:

Bex, Ceidiog

Deian a Loli Ac Ysbryd y Nadolig, Cwmni Da

Efaciwis, Wildflame

Itopia, Boom Cymru

 

Enwebion Comedi neu Adloniant:

Chris a’r Afal Mawr, Cwmni Da

Prosiect Pum Mil, Boom Cymru

 

Enwebion:  Digidol Gwreiddiol

Pen Petrol, RondoMedia

 

Enwebion Drama – Dal y Mellt, Vox Pictures

 

Enwebion Ffeithiol – Britain’s Traitor King, Yeti Television

 

Dywedodd Llyr Morus, Aelod o Gyngor TAC a oedd yn cynrychioli TAC ar y noson:

 

“Cafwyd noson hwyliog unwaith eto eleni yng ngwobrau blynyddol RTS Cymru a da oedd gweld cynifer o gynyrchiadau aelodau TAC yn cael eu gwobrwyo am eu gwaith anhygoel.  Braf yw gweld noson wobrwyo yn cydnabod y gwaith da mae myfyrwyr sy’n dod i’r diwydiant yn ei wneud yn ogystal â chwmnïau annibynnol.  Gwych hefyd gweld gwaith aelodau o’r criw tu ôl i’r camera mewn meysydd cynhyrchu yn cael y clod maent yn eu haeddu.”

Cysylltu â ni