Llwyddiant i Aelodau TAC yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022
14 June 2022
Llongyfarchiadau gwresog i ddau o aelodau TAC a ddaeth i’r brig yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022 a gynhaliwyd yn Quimper, Llydaw rhwng 7 a 9 Mehefin 2022.
Daeth llwyddiant i Cwmni Da wrth ennill y categori Comedi Radio gyda’r rhaglen Dim Byd ar y Radio, tra gwnaeth cwmni Telesgop gipio’r wobr yn y categori Rhaglen Gylchgrawn Radio: Rhaglen Ifan Evans.
Cafodd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd ei chynnal yn Llydaw eleni wedi dwy flynedd ar lein. Llongyfarchiadau mawr i Cwmni Da a Telesgop ar eu llwyddiant yn yr Ŵyl hon sy’n dathlu llwyddiannau a thalent y diwydiannau creadigol yn y gwledydd a’r rhanbarthau Celtaidd.
Llongyfarchiadau hefyd i holl aelodau TAC a wnaeth dderbyn enwebiadau ar gyfer Gwobrau Torc Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022 yn cynnwys Wildflame Productions Ltd, Boom Cymru, Tinopolis, Orchard Media and Events, Astud, Regan Developments Ltd a Docshed.
Mae’n wych gweld cynifer o raglenni mewn gwahanol gategorïau’n dod i’r brig gan adlewyrchu sector cynhyrchu annibynnol eithriadol o ddyfeisgar, gweithgar a chreadigol yng Nghymru.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW