Llwyddiant i Aelodau TAC yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2023
9 June 2023

Llongyfarchiadau gwresog i aelodau TAC a ddaeth i’r brig yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2023 a gynhaliwyd yn Dungloe, Iwerddon rhwng 6 a 8 Mehefin 2023. Mae cystadleuaeth Gwobrau Torc yr Ŵyl yn agored i gynyrchiadau gwreiddiol, a derbynnir ceisiadau o’r gwledydd a’r rhanbarthau Celtaidd ar unrhyw bwnc. Enillwyr TAC ymysg Gwobrau Torc oedd:
Rhaglen Plant (Sgrin): Itopia, Boom Cymru
Adloniant (Sgrin): Côr Cymru – Corau Cymysg, Rondo Media
Cyflwynydd y Flwyddyn (Sain): Ifan Jones Evans, Telesgop
Ffurf Fer (Sgrin): Stori Stiwdio: Stori Ghofran, Boom Cymru
Yn ogystal â’r llwyddiannau uchod, derbyniodd aelodau TAC nifer o enwebiadau am eu cynyrchiadau yn cynnwys:
Animeiddio (Sgrin): Y Cythraul Celf, Tinopolis
Rhaglen Plant (Sgrin): Deian a Loli a Tŷ Nain Jên, Cwmni Da
Comedi (Sgrin): Rybish, Cwmni Da
Rhaglen Ddogfen (Sain): Phantom at 35, Telesgop
Cyfres Ddrama (Sgrin): Dal y Mellt, Vox Pictures Ltd
Y Gyfrinach, Boom Cymru
Adloniant Ffeithiol (Sgrin): Bwyd Byd Epic Chris, Cwmni Da
Cyfres Ffeithiol (Sgrin): Ysgol Ni: y Moelwyn, Darlun
Rhaglen Ddogfen Ffeithiol (Sgrin): Y Parchedig Emyr Ddrwg, Docshed
Hanes (Sgrin): Efaciwis: Pobl y Rhyfel, Wildflame Productions Ltd
Ffurf Fer (Sgrin): Stori Stiwdio: Stori Ghofran, Boom Cymru
Rhaglen Ddogfen Sengl (Sgrin): Huw Edwards yn 60, Rondo Media
Ysbryd yr Ŵyl: Sgwrs Dan y Lloer, Tinopolis
Rhaglen Ddogfen Chwaraeon: Cewri Cwpan y Byd, mewn cysylltiad â Docshed
(Sgrin)
Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:
“Llongyfarchiadau mawr i aelodau TAC a ddaeth yn fuddugol ac a dderbyniodd enwebiadau yng Ngwobrau Torc Rhagoriaeth Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd 2023. Mae’r amrywiaeth o raglenni o fewn y gwahanol gategorïau yn amlygu’r dalent sydd gennym yma yng Nghymru wrth gynhyrchu cynnwys o’r safon uchaf. Mae’r Ŵyl yn ddigwyddiad blynyddol ac yn ffordd ragorol i ddod a sector y cyfryngau o’r gwledydd a’r rhanbarthau Celtaidd ynghyd. Edrychwn ymlaen yn fawr felly at groesawu’r Ŵyl i Gaerdydd yn 2024.”
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW