Llwyddiant i Darlun yng Ngwobrau Broadcast 2021
28 May 2021
Llongyfarchiadau mawr ar ran TAC i’n haelod Arwyn Evans o gwmni Darlun a’i dîm ar ennill gwobr Rhaglen Orau Cyfnod y Clo: Newyddion, Dogfen a Ffeithiol yng ngwobrau cylchgrawn Broadcast 2021 am y rhaglen Dim Ysgol: Maesincla. Cynhaliwyd y seremoni ar-lein ar 27 Mai, a chipiodd cynhyrchiad Darlun i S4C y wobr yn erbyn cynyrchiadau i ITV, BBC1, BBC2 a Channel 4.
Ffilmiwyd y rhaglen yn ystod cyfnod y clo, a bu’n gyfle i ddal fyny efo straeon y plant, eu teuluoedd a staff cymuned arbennig Maesincla yn ystod cyfnod o newid mawr yn hanes yr ysgol. Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: “Llongyfarchiadau i dîm Darlun ar eu llwyddiant. Mae’n braf gweld ystod o gwmnïau cynhyrchu o Gymru’n derbyn enwebiadau ar gyfer gwobrau o bwys ledled y DU yn gyson erbyn hyn, ac mae’n destun dathlu pan maent yn fuddugol. Mae’r cynnwys am ysgol a chymuned Maesincla wedi codi calon y gwylwyr yn ystod y cyfnod diwethaf hwn, ac rwy’n siŵr y bydd plant, rhieni a chefnogwyr yr ysgol yn falch iawn o glywed y newyddion. Mae’n wirioneddol wych gweld cynhyrchiad o Gymru i S4C yn cyrraedd y brig fel hyn.ˮ
Mae gwobrau Broadcast yn dathlu cynyrchiadau gorau y maes darlledu yn y Deyrnas Unedig.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW