TAC yn croesawu’r datganiad gan Ymddiriedolaeth y BBC ynghylch parhad ariannu S4C hyd at 2022

8 September 2016

Mae TAC yn croesawu’r datganiad gan Ymddiriedolaeth y BBC ynghylch parhad ariannu S4C hyd at 2022

 

Mi fydd o gymorth wrth greu sefydlogrwydd i’r cwmniau sy’n cynhyrchu cynnwys i S4C.  Serch hynny, mae hi’n bwysig bod yr adolygiad o S4C (gan gynnwys elfennau o reolaeth, ariannu, pwrpas a diffiniad y gwasanaeth) yn parhau i gael ei gynnal.   Mae’n rhaid pwysleisio hefyd taw aros yn ei unfan y mae cyfraniad y ffi drwydded yn sgil y datganiad hwn – a thra bod hynny yn naturiol yn well nag unrhyw doriadau pellach, mae’n rhaid hefyd bod yn warchodol rhag toriadau pellach o’r brif ffynhonnell arall sydd yn ariannu’r sianel ar hyn o bryd.

Ar ol cyfres o doriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n allweddol ein bod yn gallu gwarantu ariannu digonol er mwyn cyfleu cynnwys safonol ar amrywiaeth o blatfformau a chynnig y gwasanaeth gorau posib i’r gynulleidfa.

 

Ymddiriedolaeth y BBC yn cadarnhau cyllid S4C tan 2022

Cysylltu â ni