Neges gan Amanda Rees S4C

30 August 2018

Cyhoeddwyd y neges isod ar ran y Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys ar wefan cynhyrchu S4C dydd Iau 30 Awst 2018.

Annwyl Gyfeillion,

Yn sgil dau gŵyn diweddar yn ymwneud â chwmnïau cynhyrchu’n cysylltu ag aelodau o’r cyhoedd yn uniaith Saesneg, hoffwn atgoffa pawb fod S4C yn disgwyl i gwmnïau sy’n cynhyrchu ar ein cyfer gysylltu â’r cyhoedd – naill ai fesul un neu’n dorfol – os nad yn Gymraeg yn unig, yna’n ddwyieithog o leiaf. Os ydych yn meddwl bod unrhyw reswm i weithredu’n wahanol, gaf i ofyn i chi siarad â’r Comisiynydd perthnasol yn gyntaf, os gwelwch yn dda.

Diolch

Amanda

Cysylltu â ni