Neges gan Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC par S4C:

17 October 2023

Neges gan Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC par S4C:

“Mae S4C wedi cadarnhau mewn cyfarfod heddiw, 17 Hydref, 2023 gyda TAC bod Cadeirydd y Sianel – Rhodri Williams, wedi gofyn i Geraint Evans ac Elin Morris i rannu dyletswyddau Prif Weithredwr S4C, tra bod Siân Doyle i ffwrdd ar salwch.

Mae Elin yn gofalu am ochr atebolrwydd a DCMS a Geraint Evans yn gofalu am y cynnwys.

Bwriad S4C yw parhau gyda phob dim yn ôl yr arfer ac mae comisiynau 2024 a 2025 yn cael blaenoriaeth.  Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn maes o law.

Os ydych yn ansicr am unrhyw beth, mae croeso i chi gysylltu gyda’r tîm cynnwys/comisiynu neu gyda Geraint Evans, neu yn uniongyrchol gyda TAC.”

Cysylltu â ni