Penodi Emyr Afan yn Ddirprwy Gadeirydd TAC

4 March 2022

Mae TAC – Teledwyr Annibynnol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod Emyr Afan wedi’i benodi’n Ddirprwy Gadeirydd TAC yn dilyn cyfarfod o’r Cyngor yr wythnos diwethaf.  Emyr Afan yw Prif Swyddog Gweithredol y cwmni cynhyrchu teledu Avanti Media ac mae wedi ennill nifer fawr o wobrau gan BAFTA ac eraill, am ei raglenni.

Mae Emyr wedi bod yn aelod o Gyngor TAC ers blynyddoedd maith ac mae ei gyfraniad wedi bod yn holl bwysig wrth gynrychioli cwmnïau cynhyrchu annibynnol a’r sector yng Nghymru.

Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:  “Rwyf yn hynod o falch bod Emyr wedi cytuno i ymgymryd â’r rôl.  Bydd ei brofiad helaeth a’i allu naturiol wrth arwain a chyfathrebu yn gaffaeliad i TAC.  Rydym yn adeiladu ar dîm newydd ar adeg cyffroes a heriol o fewn y sector ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyd-weithio yn agosach ag ef.”

Dywedodd Emyr Afan, Dirprwy Gadeirydd TAC:  “Hoffwn ddiolch i Dyfrig am y croeso a’i gefnogaeth i mi ac rwy’n falch iawn o gael derbyn y swydd.  Mae TAC wedi gweithredu ar lwybr cadarn ar hyd y blynyddoedd i fod yn llais cryf.  Rwy’n teimlo yn fy nghalon ein bod yn dod tuag at gyfnod allweddol ym myd y cyfryngau a darlledu, ac rwy’n edrych ymlaen at fod o gymorth ymarferol wrth gefnogi Dyfrig a’r tîm.”

Ychwanegodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:  “Mae gan TAC lawer o gynlluniau ar y gweill yn cynnwys adeiladu ar ein rhaglen hyfforddiant, ymateb i strategaeth newydd S4C, gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar faterion polisi allweddol a chyd-weithio gyda’n darlledwyr.  Mae’n rhaid sicrhau sector greadigol ffyniannus a llwyddiannus a bydd arbenigedd Emyr yn ein cynorthwyo i wneud hyn wrth symud ymlaen.”

Cysylltu â ni