>

S4C: Canllawiau Etholiad Cyffredinol 2019

5 November 2019

Mae S4C wedi cyhoeddi canllawiau i gynhyrchwyr ar gyfer darlledu yn ystod cyfnod ‘purdah’; y cyfnod cyn yr Etholiad Cyffredinol ar 12 Rhagfyr 2019.

Mae’n hollbwysig bod cynyrchiadau’n cydymffurfio’n llawn â’r canllawiau, a bod cynhyrchwyr pob rhaglen a chyfres yn ymwybodol o’r canllawiau hyn. Noder yn arbennig y pwyntiau canlynol:

  • Ni chaniateir i ymgeiswyr weithredu fel cyflwynwyr newyddion, cyfwelwyr na chyflwynwyr unrhyw fath o raglen yn ystod cyfnod yr etholiad. Mae’n hynod bwysig i S4C gael ei hysbysu cyn gynted â phosibl ymlaen llaw os oes unrhyw un o gyflwynwyr y sianel yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd.
  • Ni fydd rhestr derfynol yr ymgeiswyr ar gael nes i enwebiadau gau ddydd Iau 14 Tachwedd 2019. Yn y cyfnod cyn hynny, bydd angen i gynhyrchwyr fod yn arbennig o ofalus o ran cyfranwyr sydd wedi mynegi bwriad i sefyll yn yr etholiad, neu sy’n debygol o wneud hynny.
  • Dylid osgoi cynnwys unrhyw farn wleidyddol gan unrhyw gyfrannydd o fewn rhaglenni nad sydd yn rhai gwleidyddol er mwyn i S4C gynnal gwasanaeth sy’n ddiduedd yn ystod y cyfnod etholiadol.

 

Cysylltu â ni