Bydd S4C yn cynnal dau gyfarfod gyda’r sector ym mis Hydref

22 August 2018

Y dyddiadau yw:

  1. Dydd Mawrth 23 Hydref 10:00-16:00 Caerfyrddin, lleoliad i’w gadarnhau
  2. Dydd Gwener 26 Hydref 09:30-15:00, Caernarfon, lleoliad i’w gadarnhau

Yn ystod y cyfarfod, bydd cyflwyniad byr gan Amanda Rees, ac yna bydd cyfle i chi gwrdd â’r comisiynwyr yn unigol:

  • Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys
  • Sue Butler, Chwaraeon
  • Llinos Wynne, Ffeithiol a Gwledig
  • Gwawr Martha Lloyd, Drama
  • Elen Rhys, Adloniant
  • Sioned Wyn Roberts, Plant a Dysgwyr
  • Rhodri ap Dyfrig, Cynnwys Ar-lein

Bydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael os oes angen.

Anfonwch atebion at Bethan Jenkins yn S4C os gwelwch yn dda. Rydym yn cyfyngu’r niferoedd i ddau gynrychiolydd o bob cwmni ar gyfer y digwyddiad hwn. Bydd angen i chi fwcio slot gyda’r comisiynwyr wrth ymateb – cyntaf i’r felin caiff falu. Bydd modd i chi anfon cynrychiolwyr gwahanol o’ch cwmnïau i’r sesiynau unigol.

 

Cysylltu â ni