S4C yn cyhoeddi ei strategaeth digidol

24 July 2018

Mae S4C wedi cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol fydd yn cynnig cyfleoedd i’r gynulleidfa gael mynediad i fwy o gynnwys Cymraeg drwy lwyfannau digidol. Cyhoeddwyd y manylion isod gan S4C ddydd Llun 23 Gorffennaf 2018 yn Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd cyfresi cyfan ar gael ar-lein yn dilyn darllediad y rhifyn cyntaf o fis Medi ymlaen. Bydd hyn yn cychwyn gyda chyfresi ffeithiol, a bydd pleidlais yn cael ei chynnal ym mis Awst i ddewis y cyfresi cyntaf fydd ar gael i’w gwylio i wylwyr sydd wedi mewngofnodi.

Bydd y gwasanaeth poblogaidd Hansh yn ffrydio cyfresi cyfan ar-lein ar ddyddiad y darllediad teledu cyntaf ac yn cynyddu’r cynnwys sydd wedi ei greu gan ddefnyddwyr (UGC).

Ymhlith newidiadau eraill, mi fydd chwaraewr S4C Clic yn cael ei uwchraddio er mwyn creu profiad gwell i’r gwyliwr, ac mi ddaw dechrau ar y broses o bersonoleiddio gwasanaethau ar-lein fel bo gwylwyr yn gallu dod o hyd i gynnwys sydd o ddiddordeb penodol iddyn nhw. Yn ogystal, mi fydd S4C yn dechrau ar lwybr o hyrwyddo digidol drwy ddyfeisiadau symudol, yn ogystal â dulliau cyfathrebu digidol confensiynol eraill.

Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: “Ry’n ni am ei gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl ffeindio cynnwys Cymraeg sydd o ddiddordeb iddynt ar lwyfannau digidol. Mae’n digwydd gyda llawer o gynnwys Saesneg, ac mae cael yr un peth yn Gymraeg yn hollbwysig.”

Fe gyhoeddodd y sianel ym mis Ebrill y bydd yn gwario £1m y flwyddyn am y tair blynedd nesaf er mwyn sicrhau bod gan S4C arlwy digidol fydd yn bodloni anghenion siaradwyr Cymraeg yn oes Netflix ac Amazon.

Ychwanegodd Owen Evans: “Mi fydd datblygiadau ym maes dosbarthu cynnwys digidol yn allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg yn y cyfryngau. Mae’r Adolygiad Annibynnol ac ymateb y llywodraeth iddo wedi cydnabod yr angen i S4C ehangu ei gweithgareddau i’r gofod digidol, ac rydym wedi croesawu’r penderfyniadau hynny’n fawr iawn.

“Y pwynt allweddol i S4C yw ei bod hi’n hanfodol i ni sicrhau bod cynnwys Cymraeg ar gael ar lwyfannau digidol poblogaidd. Fe fydd hyn, law yn llaw â chynnal gwasanaeth teledu cryf, yn sicrhau bod y Gymraeg i’w chlywed yn y cyfryngau ac yn rhan amlwg o’n bywydau bob dydd o hyd.”

Mi fydd gweithgareddau digidol S4C yn cael eu cydlynu gan hyb digidol mewnol, sydd yn un o argymhellion yr adolygiad annibynnol. Mae S4C wrthi’n penodi nifer o swyddi o fewn yr hyb digidol, a fydd yn rhan o gyflawni’r cynlluniau uchod dros y blynyddoedd nesaf.

Manylion cefndir

Mi fydd gweithredu Strategaeth Digidol S4C yn hybu gwasanaethau digidol dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y cynlluniau uchelgeisiol yn cynnig cyfleoedd i’r gynulleidfa gael mynediad i fwy o gynnwys Cymraeg drwy’r llwyfannau digidol, ac yn cynyddu presenoldeb y Gymraeg yn y gofod digidol.

Bwriad Strategaeth Digidol S4C yw:

  • Creu isadeiledd cryf i’n sefydliad a’n cynulleidfa

 Mae hyn yn golygu cryfhau ein systemau technoleg, gan sicrhau eu bod yn cyflawni disgwyliadau cynulleidfa soffistigedig ac amrywiol. Rydym am ddefnyddio data perthnasol sy’n adlewyrchu dymuniadau a defnydd y gynulleidfa, felly byddwn yn mabwysiadu systemau sy’n caniatáu lefelau llawer uwch o bersonoleiddio.

  • Meithrin enw da fel comisiynydd a dosbarthwr cynnwys rhagorol ar lwyfannau digidol

Mae hyn yn golygu sicrhau ein bod yn llwyddo i ddarparu ar gyfer ystod o ddefnyddwyr yn y ffordd maen nhw’n dewis defnyddio cynnwys. Mae’r gwasanaeth teledu’n parhau i fod yn bwysig iawn i’r gynulleidfa, a byddwn yn parhau i gynnal gwasanaeth teledu cryf, ond mae’r strategaeth digidol yn canolbwyntio ar gryfhau elfennau digidol a fydd yn ein cynorthwyo i ymestyn ein cyrhaeddiad ymhellach, yn enwedig ymysg cynulleidfaoedd 16-34 a 45-64 oed.

Mae S4C eisoes wedi pennu nifer o brif flaenoriaethau gweithredol ar gyfer y blynyddoedd i ddod er mwyn cyflawni ein hamcanion.

Isadeiledd:

Gwella’r chwaraewr ar-lein –

  • Gwelliannau i S4C Clic, sef chwaraewr ar-lein y sefydliad gan gynyddu capasiti a gwella profiad defnyddwyr;
  • Cynnal llwyfan S4C Clic ar ystod o ddyfeisiadau – iOS ac Android.
  • Yr isadeiledd angenrheidiol er mwyn cynnig ‘box-sets’ o gynnwys newydd a chynnwys archif.

Personoleiddio:

  • Defnyddio llwyfannau digidol i sicrhau bod defnyddwyr unigol yn gwybod am gynnwys sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
  • Bydd S4C yn sefydlu system sy’n galluogi i ddefnyddwyr fewngofnodi i’r llwyfan digidol, S4C Clic, fel bod eu diddordebau personol yn cael eu cofrestru er mwyn sicrhau ein bod yn cynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr o gynnwys perthnasol mewn amryw o ffyrdd.
  • Y bwriad yw defnyddio dulliau cyfathrebu uniongyrchol amrywiol (o fewn rheolaeth y defnyddiwr) i gynyddu ymwybyddiaeth o gynnwys sydd o ddiddordeb ac sydd ar gael ar S4C Clic neu ar y sianel deledu.
  • Mi fydd hyn yn gweithio mewn ffordd debyg i’r modd mae rhai darlledwyr eraill wedi bod yn gweithredu ers rhai blynyddoedd (gweler Channel 4 fel enghraifft dda).

Cynnwys:

Er mwyn denu cynulleidfaoedd ar lwyfannau digidol, mae’n rhaid cael cynnwys sy’n ddeniadol ac yn cwrdd â gofynion a chwaeth cynulleidfaoedd targed. Mae gennym gynlluniau cyffrous i ddatblygu ein harlwy o gynnwys.

Hansh 

  • Mwy o gynnwys digidol-yn-gyntaf wrth i sianel Hansh gael ei huwchraddio;
  • Amrywiaeth ehangach o gynnwys ar y gwasanaeth, e.e. gwyddoniaeth a materion cyfoes.

Box-sets

  • Ffrydio cyfresi cyfan ar-lein ar ddyddiad y darllediad teledu cyntaf;
  • Cynnwys newydd a chynnwys archif;
  • Cynnwys yn ddibynnol ar sicrhau’r hawliau priodol.

Llwyfan i gynnwys gan ddefnyddwyr 

  • Mae S4C yn datblygu cynlluniau i gynyddu faint o gynnwys gan ddefnyddwyr eu hunain sydd ar S4C Clic, yn enwedig gan blant.
  • Y bwriad yw defnyddio hyn fel llwyfan i adloniant, yn ogystal â ffordd o adnabod talent a’i ddatblygu.

Hyrwyddo digidol 

  • Hysbysiadau hyrwyddo drwy ddyfeisiadau symudol, yn ogystal â dulliau cyfathrebu digidol confensiynol eraill.

Mae nifer o’r newidiadau uchod eisoes yn cael eu gweithredu, a daw eraill i ddilyn dros gyfnod y cynllun, sef tair blynedd. Mae’r datblygiadau dros y cyfnod yn cael eu cyllido yn sgil penderfyniad S4C i glustnodi £1m y flwyddyn dros dair blynedd i hybu ei gwasanaethau digidol.

Mae’r gwelliannau cyntaf i isadeiledd digidol S4C newydd gael eu cwblhau, sy’n golygu bod fersiwn newydd o S4C Clic yn mynd yn fyw i’r cyhoedd o 23 Gorffennaf 2018 ymlaen. Mae’r fersiwn newydd yn cynnwys nodweddion newydd sy’n ei gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr rannu cynnwys a gwneud sylwadau, yn ogystal â’i gwneud yn haws i ddod o hyd i gynnwys pellach perthnasol.

Mae’r gwelliannau uchod yn rhan o weledigaeth i apelio at genhedlaeth Netflix o wylwyr. ByddS4C yn rhyddhau manylion gwelliannau yn unol â’i strategaeth wrth iddynt gael eu cadarnhau dros y misoedd nesaf.

 

Cysylltu â ni