S4C yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r sector cynhyrchu

17 March 2020

Mae Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, wedi anfon llythyr at Ken Skates AC, y Gweinidog dros yr Economi,  Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn Llywodraeth Cymru yn gofyn iddo greu cynllun i helpu cwmnïau cynhyrchu a gweithwyr llawrydd sydd a bydd yn cael eu heffeithio gan ledaeniad Coronafeirws COVID-19. Dywed Mr Evans ei fod wedi cwrdd â nifer o gwmnïau ac unigolion sydd wedi colli gwaith am yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ac mae’n annog y Gweinidog i greu mesurau arloesol i leddfu effaith y colledion hyn ar y busnesau dan sylw ac ar economi Cymru, sy’n gweld budd mawr o gyfraniad y diwydiannau creadigol fel arfer.

Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: “Mae TAC yn gweithio gydag S4C i gyfathrebu diweddariadau i aelodau TAC a’r sector cynhyrchu ehangach pryd bynnag daw cyfle. Rydym yn ymwybodol pa mor anodd yw hi ar hyn o bryd, ac yn llwyr werthfawrogi pryderon y sector ac yn gwerthfawrogi ymdrechion pawb mewn cyfnod mor heriol. Os oes gan ein haelodau ni unrhyw bryderon neu os ydych chi am drafod, mae croeso i chi gysylltu gyda naill ai finne neu Luned Whelan.ˮ

 

Cysylltu â ni