TAC a Swyddfa Cymru’n dathlu llwyddiant y sector cynhyrchu

12 June 2018

TAC yn cynnal digwyddiad ar y cyd â Swyddfa Cymru yn Llundain

Mi groesawodd y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, y gwesteion yn ei swyddfa mewn derbyniad ar y cyd â TAC ar 11 Mehefin, i ddathlu llwyddiant y sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru, yn enwedig yn y cynnydd mewn cydweithio gyda darlledwyr ledled y DU ac ar lwyfan rhyngwladol.

Bu Margot James AS, Gweinidog DCMS dros Ddigidol a’r Diwydiannau Creadigol, yn annerch y gynulleidfa hefyd, ynghyd â Gareth Williams, Cadeirydd TAC, a Luned Whelan, Rheolydd Gweithredol TAC.

Yn ogystal, dangosodd TAC ddetholiad fideo o oreuon gwaith y cynhyrchwyr i’r gwesteion; roedd comisiynwyr teledu, dosbarthwyr, swyddogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr o Gyngor TAC ac o blith yr aelodaeth yn bresennol.

Cysylltu â ni