TAC o flaen Pwyllgor yr archwiliad i ffilm a theledu

7 June 2018

Ym mis Mai, bu Gareth Williams, Cadeirydd TAC, a Luned Whelan, y Rheolydd Gweithredol, yn cynrychioli TAC o flaen Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Pwyllgor wrthi’n cynnal archwiliad i ‘Ffilm a Chynyrchiadau Teledu Mawr yng Nghymru’. Wedi i TAC gyflwyno papur yn cynnig barn ar faterion megis gwella buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a chynyddu darpariaeth hyfforddiant a sgiliau, cawsom ein gwahodd i roi tystiolaeth bellach.

Roedd yn sesiwn gadarnhaol, ac mae TAC yn edrych ymlaen at gydweithio eto gyda’r Pwyllgor a gweld y casgliadau a ddaw ganddo.

Mae trawsgrifiad o’r sesiwn ar gael i’w ddarllen o dan adran 3.

Gallwch hefyd wylio’r sesiwn ar-lein. (1 awr 24’30”)

Ymateb gwreiddiol TAC i’r archwiliad

Cysylltu â ni