TAC yn cefnogi Datganiad o Ymrwymiad yn erbyn ymddygiad amhriodol mewn teledu
22 August 2022
Mae TAC yn falch iawn o gefnogi y Datganiad o Ymrwymiad a gyhoeddwyd heddiw (22 Awst 2022) yn erbyn bwlio, aflonyddu ac ymddygiad amhriodol mewn teledu.
Yn y Datganiad, mae Equity yn nodi “am y tro cyntaf, mae grŵp sy’n cynnwys cynrychiolwyr sy’n ymwneud â chylch bywyd gwaith actorion wedi cwrdd er mwyn trafod sut gall pawb gyfrannu tuag at weithle parchus ac i gytuno sut dylai pryderon gael eu mynegi os oes ymddygiad amhriodol.”
Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:
“Mae TAC yn falch iawn o gefnogi’r Datganiad o Ymrwymiad hwn i sicrhau amgylchedd gweithio diogel a theg ar gyfer ein talent o flaen y camera. Bydd pob cam bach sy’n cael ei gymryd gan bawb i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â bwlio ac aflonyddu ac ymddygiad amhriodol yn gwneud gwahaniaeth mawr i bawb sy’n gweithio yn y diwydiant.
Bydd camau o’r fath yn helpu i wella amodau gwaith ac yn darparu protocolau clir ar sut i fynd i’r afael â phryderon, gan roi cymorth a gwneud unigolion yn ymwybodol o’u hawliau. Mae TAC yn cydnabod pwysigrwydd y sector llawrydd sef asgwrn cefn y diwydiant.”
Gellir gweld copi llawn o’r Datganiad yma:
Equity – Statement of Commitment Against Bullying, Harassment and Inappropriate Behaviour in TV
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW