TAC yn croesawu Adolygiad Darpariaeth Cynnwys Ymddiriedolaeth y BBC

19 June 2015

Mae TAC wedi ymateb i gyhoeddi’r Adolygiad Darpariaeth Cynnwys Ymddiriedolaeth y BBC.

Meddai Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick:

“Rydym yn croesawu’r ffaith fod y BBC, fel rhan o ailedrych ar y fordd mae nhw’n comisiynu i’r rhwydwaith ar draws y DU, fod yr Ymddiriedolaeth hefyd am weld sut mae canolfannau cynhyrchu’r BBC ledled y DU yn bwriadu cydweithio’n fwy effeithiol gyda’r sector annibynnol mewn gwahanol ardaloedd i ddatblygu unedau lleol creadigol a chynaliadwy.”

“Rydym hefyd yn croesawu penderfyniad yr adolygiad fod angen gostyngiad neu hyd yn oed gael gwared yn llwyr ar y gwarant cynhychu mewnol yn y BBC, er mwyn galluogi mwy o gystadlu am syniadau gan gwmnïau annibynnol.”

Cyfrannodd TAC at adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC, a oedd yn cwmpasu teledu, radio ac ar-lein. Mae’r Adolygiad llawn i’w gweld yma.

Cysylltu â ni