TAC yn croesawu buddsoddiad y BBC yng Nghymru

22 February 2017

TAC yn croesawu buddsoddiad y BBC yng Nghymru

Dywedodd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), sy’n cynrychioli’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru, ei fod yn croesawu’r newyddion y bydd BBC Wales yn buddsoddi £8.5m y flwyddyn erbyn 2019/20.

Dywedodd Cadeirydd TAC Iestyn Garlick: ‘Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad hwn yn fawr , yn enwedig gan fod y BBC wedi ymrwymo i sicrhau bydd cyllid teledu newydd yn agored i gystadleuaeth lawn. Bydd ein haelodau, sydd eisoes yn cynhyrchu cynnwys o safon ym mhob pob genre, yn edrych ymlaen at gystadlu i wneud y gorau posib o’r cyfleon newydd hyn.’

Gwnaed y cyhoeddiad am arian ychwanegol gan y BBC nos Fawrth: http://www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2017/wales-investment

Cysylltu â ni