TAC yn croesawu cadarnhad gan Lywodraeth y DU ar berchnogaeth Channel 4

29 March 2017

Mae Teledwyr Annibynnol Cymru’n falch i groesawu datganiad Ysgrifenydd Gwladol y DCMS Karen Bradley y bydd Channel 4 yn parhau i fod mewn perchnogaeth gyhoeddus.

Yn ystod anerchiad yng Nghynhadledd Cyfryngau y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau yn Salford, cyhoeddodd Karen Bradley hefyd y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar agweddau o’r darlledwr, yn benodol, a fyddai’n cael ei leoli yn Llundain neu yn rhywle arall.

Dywedodd Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick:

“Mae TAC wedi cyfathrebu neges gyson i Lywodraeth y DU ei bod yn eithriadol o bwysig i Channel 4 barhau i fuddsoddi ei elw mewn cynhyrchu, ac rydyn ni’n falch fod ein llais ni ac eraill wedi eu clywed.”

“Mi fyddwn yn ymateb i’r ymgynghoriad, wrth gwrs, ond er ein bod yn croesawu ymgysylltiad â chynhyrchwyr ym mhob rhan o Gymru, byddwn yn ochelgar o oblygiadau posibl adleoli pencadlys Channel 4 i fan a allai fod yn llai hygyrch i aelodau TAC, yn hytrach nag yn fwy hygyrch.”

Gellir darllen mwy am y datganiad yma.

Cysylltu â ni