TAC yn croesawu cronfa newydd i ariannu teledu plant a chynnwys yn Gymraeg

22 October 2018

Mae TAC wedi croesawu cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU parthed Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc, a fydd yn clustnodi £57 miliwn i greu rhagor o gynnwys ar gyfer plant a phobl ifanc ar sianeli darlledu cynhoeddus sy’n rhad ac am ddim i’w gwylio.

Mae pump y cant o’r gronfa wedi ei dargedu’n benodol at greu cynnwys mewn ieithoedd megis y Gymraeg a Gaeleg yr Alban.

Mi fydd Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc yn cael ei gweinyddu gan y BFI, a chaiff ei lansio’n ehangach ym mis Ebrill 2019. Caiff ceisiadau eu mesur yn ôl wyth o feini prawf, sef: safon, arloesedd, gwerth ychwanegol, y cenhedloedd a’r rhanbarthau, amrywiaeth, lleisiau newydd, pliwraliaeth a chyrhaeddiad y gynulleidfa.

Yn ogystal, bydd oddeutu pump y cant o’r gronfa deledu ar gael i gwmnïau llai ei ddefnyddio fel arian datblygu.

Cyn bo hir, mi fydd y BFI yn sefydlu pwyllgor llywio ac yn parhau i drafod â sefydliadau o fewn y diwydiant a rhanddalwyr er mwyn llunio canllawiau manwl ar gyfer y gronfa.

Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: “Mae hwn yn newyddion da, ac mi fydd y gronfa hon yn cynnig cyfleoedd pwysig i’r sector cynhyrchu greu rhagor o gynnwys darlledu cyhoeddus. Gall cynhyrchwyr yng Nghymru fanteisio ar eu profiad helaeth a llwyddiannus o greu rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc wrth ymgeisio am arian ar gyfer prosiectau newydd, cyffrous. Rydym yn croesawu’r targed ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill y DU, yn enwedig gan fod cyllidebau S4C yn dal i fod yn heriol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â’r BFI ar sut gallwn wneud y mwyaf o’r cyfle hwn.”

Mae Cronfa Cynnwys Clywedol wedi ei sefydlu hefyd, er mwyn annog creu cynnwys darlledu cyhoeddus, wedi ei anelu at gynulleidfaoedd o bob oed, ar radio masnachol. Mi fydd y meini prawf yr un fath, ac unwaith eto, mae targed o bump y cant i’w wario ar gynnwys yn Gymraeg ac ieithoedd tebyg eraill.

Darllen y datganiad i’r wasg gan Lywodraeth y DU

Darllen dogfen bolisi Llywodraeth y DU (Saesneg)

 

 

 

 

Cysylltu â ni