TAC yn croesawu cyfarwyddwr y BBC ar gyfer y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau

6 July 2016

MaeTAC heddiw wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd y BBC yn penodi cyfarwyddwr newydd i’r cenhedloedd a’r rhanbarthau.

Meddai Cadeirydd TAC Iestyn Garlick:

“Rydym yn croesawu’r swydd hon ac yn gobeithio ei bod yn dangos ymrwymiad gwirioneddol fod y BBC yn bwriadu ymgysylltu mwy gyda phobl ar draws y DU. Rydym yn mawr obeithio y bydd un o ofynion allweddol ar gyfer y swydd yn brofiad o weithio gyda’r sector cynhyrchu annibynnol, er mwyn gwneud y gorau o’r ystod eang o gwmnïau sydd wedi eu gwasgaru ar draws y cenhedloedd a rhanbarthau, a hynny er mwyn darparu cynnwys cyfoethog ac amrywiol fydd yn anelu at ac yn adlewyrchu’n gywir yr ardaloedd hynny. ”

BBC

 

Cysylltu â ni

Password Reset
Please enter your e-mail address. You will receive a new password via e-mail.