TAC yn dweud y daw Adolygiad S4C ar adeg ‘dyngedfennol’ i’w dyfodol

7 August 2017

Heddiw, mae TAC wedi croesawu gweithrediad Adolygiad o S4C, y cyntaf o’i fath er 2004.

Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC: “Daw’r adolygiad hwn ar adeg dyngedfennol i S4C, am fod gostyngiad estynedig mewn gwariant gwir werth yn golygu bod cyfradd ailddarllediadau ar y brif sianel wedi codi i 63%.

“Mae perthynas unigryw S4C â’r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru’n galluogi i’r darlledwr gyflenwi ystod o raglenni o safon uchel. Ond mae cynnydd mewn rhaglenni newydd yn angenrheidiol er mwyn denu cynulleidfaoedd, ac oherwydd hyn, mae TAC yn galw am godiad un-tro o 10% yng nghyfanswm yr ariannu cyhoeddus mae S4C yn ei dderbyn. Yn ogystal, rhaid clymu’r ariannu â chwyddiant.

“Dylid cynnal a chryfhau annibyniaeth S4C, heb fod arni ymrwymiad ffurfiol i adrodd i’r BBC, a dylai ei chylch gorchwyl sicrhau bod y mwyafrif helaeth o’i rhaglenni’n deillio o’r amrywiol gwmnïau cynhyrchu ledled Cymru.

“Rydyn ni’n croesawu penodiad Euryn Ogwen Williams yn arweinydd yr adolygiad. Mi fydd ei wybodaeth helaeth am y sector cynhyrchu annibynnol yn siŵr o fod o fudd mawr yn ystod y broses o sicrhau bod partneriaeth S4C a’n sector ni yn mynd o nerth i nerth.”

-DIWEDD-

Cysylltiadau: Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC: 07974 184764 / Tim Wilson, Ymgynghorydd Polisi: 07909 560374

Nodiadau

  1. Bu TAC yn ymgyrchu i warchod lefel ariannu cyhoeddus S4C er 2010, pan ddaeth newidiadau i strwythur y grant £100m+ a gysylltwyd â chwyddiant a dderbyniai cynt, ac yn hytrach, darparwyd y rhan fwyaf o’i ariannu gan y Ffi Drwydded Deledu, ynghyd â grant gan DCMS. Ar yr un pryd, bu gostyngiad mewn gwir werth yn lefel ariannu S4C dros y cyfan o 36%.
  2. Gwelir blaenoriaethau polisi TAC ar gyfer Adolygiad S4C isod.

Blaenoriaethau Polisi TAC – Mae angen i’r Adolygiad o S4C gyfleu’r isod:

  1. Ariannu:
    • Mae cyfradd ailddarllediadau S4C bellach wedi cyrraedd 63%. Mae hyn yn annerbyniol, ac mae angen cynnydd o 10% mewn ariannu cyhoeddus er mwyn comisiynu rhagor o gynnwys
    • Golyga hyn 10% o gyfanswm y ddwy ffynhonnell o ariannu cyhoeddus. Cyfanswm y rhain ar hyn o bryd ydy  oddeutu £82m, sef c. £75m gan y Ffi Drwydded a c. £6.7m gan DCMS
    • Mae TAC yn dymuno gweld cyfraniad ychwanegol o £8.2m ar ben y £6m mae S4C wedi datgan sydd ei angen i ddatblygu llwyfannau digidol, gan roi hawl i S4C gynhyrchu allbwn digidol yn swyddogol, a gosod y lefel addas o ariannu a fydd yn caniatáu hyn.
    • Rhaid cysylltu ariannu cyhoeddus S4C â chwyddiant yn ogystal (fel yn achos y BBC).
  1. Cynnal Annibyniaeth
    • Ni ddylai S4C fod yn atebol i ddarlledwr arall, yn benodol y BBC, fel y mae ar hyn o bryd. Dylai’r arian a glustnodir i S4C o Ffi’r Drwydded Deledu gael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i Awdurdod S4C neu i Ofcom, yn hytrach na mynd drwy’r BBC.
    • Mae cynnal amlygrwydd S4C yn y ddewislen sianeli (EPG) yn hanfodol i atgyfnerthu ei hunaniaeth fel gwasanaeth neilltuol a phwysig, megis y darparwyr gwasanaethau darlledu cyhoeddus eraill
    • Dylai’r cyfrifoldeb dros S4C barhau i fod ar lefel Llywodraeth y DU. Mae S4C yn rhan o dirwedd ddarlledu ehangach y DU. Dylid ei chanfod yn y cyd-destun hwn, a gwneud penderfyniadau polisi yn unol â hyn
    • Mi fuasai TAC yn gefnogol i sefydlu Bwrdd unedol neilltuol ar gyfer S4C, fel yn achos y BBC, er o bosib byddai’n dal i fod angen rheoleiddiwr ar wahân i Ofcom i adlewyrchu sefyllfaoedd penodol yng Nghymru. Mi allai’r Rheoleiddiwr hwn adrodd yn ôl i Ofcom, ond byddai angen tîm polisi cydnerth arno yn ei dro.

3. Partneriaeth gref gyda’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru:

    • Mae S4C yn dibynnu ar y sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i gyflenwi cynnwys iddi (40-50 o gwmnïau gweithredol), ac ni all fodoli hebddo
    •  Roedd y Cytundeb Gweithredu blaenorol rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC (cymal 2.6) yn datgan: ‘Dylai S4C gomisiynu’r mwyafrif helaeth o’i chynnwys gan y cwmnïau cynhyrchu annibynnol’ ac mai ‘cyfran fechan o’r holl gynnwys a gomisiynir gan S4C [ddylai comisiynau S4C gan y BBC fod]’
    • Oherwydd nad yw’r Cytundeb Gweithredu hwn yn ddilys bellach (yn dilyn diddymiad Ymddiriedolaeth y BBC), rhaid i’r gofyniad hwn gael ei fynegi’n gwbl eglur yng ngorchwylion craidd S4C er mwyn sicrhau bod ymrwymiad i gynnal a chynyddu’r sector annibynnol wrth galon amcanion S4C.
    • Mi ddylai barhau i fod yn ofynnol ar S4C i lynu at y Codau Ymarfer teledu sy’n rheoleiddio’r Telerau Masnach, yn unol â Deddf Cyfathrebiadau 2003. Yr amodau hyn, sy’n gwarchod eiddo deallusol cynhyrchwyr, sydd wrth wraidd llwyddiant syfrdanol Cymru a’r DU ym meysydd cynhyrchu ac allforio teledu dros y 10 mlynedd diwethaf.

Cysylltu â ni