TAC yn croesawu Dyfrig Davies yn Gadeirydd newydd
3 November 2021
Mae Dyfrig Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Telesgop, yn camu i rôl Cadeirydd TAC wrth i Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media, gamu i lawr ar ôl cyfnod o dair blynedd a hanner.
Mae Dyfrig yn aelod o Gyngor TAC ers blynyddoedd lawer. Mae’n Gadeirydd Urdd Gobaith Cymru yn ogystal ag yn gyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd ar ddigwyddiadau byw a rhaglenni dogfen sydd wedi dod ag enwebiadau a gwobrau iddo dros y blynyddoedd, gan gynnwys Gwobr Bafta Cymru yn 2020 am ‘The Prince and the Bomber’. Mae Dyfrig yn uwch gynhyrchydd ar y gyfres boblogaidd ‘Ffermio’ ac ar ddarpariaeth Telesgop o Sioe Frenhinol Cymru.
Dywedodd Gareth Williams: “Rydw i wrth fy modd mai Dyfrig fydd fy olynydd fel Cadeirydd. Ar ran Cyngor TAC, hoffwn ei groesawu i’r rôl, a gwn y bydd yn ei chyflawni yn ei ffordd gadarn, gytbwys ac adeiladol arferol. Mi fydd Dyfrig yn ymuno â thîm gweithredol newydd TAC, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y datblygiadau fydd ar y gweill i’r aelodaeth yn y dyfodol.ʺ
Dywedodd Dyfrig Davies: “Hoffwn ddiolch o galon i Gareth am ei ymrwymiad diflino i waith y Cadeirydd ers 2018. Rydyn ni fel Cyngor TAC yn gwerthfawrogi ei gyfraniad aruthrol i’n gwaith, sydd wedi codi proffil TAC yn sylweddol, yn enwedig ers dechrau cyfnod y pandemig. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn Gadeirydd, a pharhau i feithrin perthynas gref TAC gydag S4C a darlledwyr eraill, a gyda phartneriaid a rhanddeiliaid gwleidyddol a rheoleiddio er budd ein holl aelodau yn y sector cynhyrchu yng Nghymru.ʺ
Am ymholiadau pellach, cysylltwch â Sioned Haf Roberts ar sionedhaf.roberts@tac.cymru neu 07388 377478.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW