>

TAC yn croesawu Prif Weithredwr newydd S4C

15 May 2017

Heddiw, mae TAC wedi croesawu penodiad Owen Evans yn Brif Weithredwr ar S4C. Bydd yn dechrau yn ei swydd ar 1 Hydref 2017.

Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC:

‘Rydym yn falch o weld bod S4C wedi penodi uwch swyddog o fri i arwain y gwasanaeth i gyfnod newydd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â Mr Evans, a pharhau i ddatblygu’r berthynas gref rhwng S4C a’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol ledled Cymru sy’n gwneud rhaglenni iddi.’

‘Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Ian Jones am ei holl waith caled, yn enwedig drwy feithrin delwedd mwy cadarnhaol ac uwch ei phroffil o S4C ar lefel uchaf sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Bydd yn gadael S4C mewn sefyllfa addawol i gamu ymlaen i’r oes aml-lwyfan sydd i ddod.’

Cysylltu â ni