TAC yn croesawu’r newidiadau i fanteision treth teledu

19 March 2015

Heddiw, croesawodd TAC y cyhoeddiad yn y Gyllideb fod y Llywodraeth wedi penderfynu gostwng trothwy buddsoddiad lleiaf o 25% i 10%.

Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC:

“Mae TAC wedi bod yn galw am i hyn ddigwydd, gan y bydd yn ei gwneud yn fwy deniadol i bobl ddod i’r DU i wneud eu cynyrchiadau gan ddefnyddio criwiau a chyfleusterau yma ym Prydain, ac yn benodol yng Nghymru.”

“Rydym yn gweithio gyda Swyddfa Cymru er mwyn sicrhau cynyddu ymwybyddiaeth o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig yn y maes, a bydd y cynnydd mewn diddordeb o gael ffilmio yn y DU a ddaw yn sgil y cyhoeddiad hwn yn hwb i’r gwaith hwnnw.”

“Rydym hefyd yn croesawu’n fawr y penderfyniad i gyflwyno toriad treth ar gyfer teledu plant, sydd yn dipyn o arbenigedd gan gynhyrchwyr Cymru, gyda chwmnïau fel Boom Plant, Cwmni Da, Rondo ac eraill yn cynhyrchu deunydd plant ar gyfer y BBC a gwasanaethau S4C.”

Mae galw am y toriad treth uchel yn un o’r mesurau a gynhwysir ym maniffesto polisi TAC a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Cysylltu â ni