TAC yn croesawu’r Cynllun Peilot Hwylusydd Lles
2 August 2022
Mae TAC yn falch iawn i gefnogi lansiad y cynllun peilot Hwylusydd Lles i gefnogi iechyd meddwl mewn Ffilm a Theledu. Mae’r rhaglen beilot a lansiwyd ddydd Mawrth 2 Awst yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru trwy Gymru Greadigol a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru, ac mae’n bartneriaeth rhwng Bectu trwy ei raglen ddysgu aml-undeb CULT Cymru ac arbenigwyr iechyd meddwl a lles 6ft From the Spotlight.
Mae TAC yn ddiolchgar o fod wedi cael y cyfle i gefnogi’r cynllun hwn ac i fod yn aelod o’r bwrdd cynghori i ddatblygu rôl Hwyluswyr Lles Cymru. Gwnaeth TAC gynnal sesiwn dysgu ar gyfer aelodau TAC gyda CULT Cymru a 6ft From the Spotlight ym mis Mai 2022 er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar y cynllun arbennig hwn a sut all y cynllun fod o fudd i’r cwmnïau cynhyrchu i gefnogi pob unigolyn sy’n gweithio ar gynyrchiadau.
Roedd brwdfrydedd aelodau TAC i wybod mwy am rôl yr Hwylusydd Lles a’r gefnogaeth oedd ar gael yn amlwg. Mae TAC yn parhau i annog ei aelodau i ymrwymo i’r cynllun er mwyn sicrhau amgylchedd gweithio diogel a theg i bawb.
Mae Hwyluswyr Lles yn cydweithio â chynhyrchwyr a phenaethiaid adran i’w cynorthwyo i atal straen a phroblemau iechyd meddwl fel y gallant gyflawni eu dyletswyddau gofal cyfreithiol i’w gweithwyr. Ar yr un pryd maent yn helpu i greu amgylchedd iach, deniadol a chynhwysol i bawb. Gallant hefyd helpu i reoli bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu a rhoi cymorth gweithredol i’r gweithlu gyda’u hiechyd meddwl, eu gwydnwch a’u lles eu hunain. Darllenwch mwy am yr Hwyluswyr Lles yma.
Mae’r peilot yn agored i bob cynhyrchiad ffilm a theledu yng Nghymru, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu bach, lleol sy’n gweithio ar raglenni heb eu sgriptio, a all nawr wneud cais am grant o hyd at £15,000 i gyflogi Hwylusydd Lles.
Darllenwch y datganiad i’r wasg yn llawn a chwblhewch ffurflen gais os ydych chi am fod yn rhan o’r peilot newydd cyffrous hwn.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW