TAC yn datgan pryderon am ddiffyg cyllid newydd ar gyfer Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc a Chronfa Cynnwys Sain
24 January 2022
Mae TAC – Teledwyr Annibynnol Cymru wedi ymateb heddiw i benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â darparu cyllid drwy Ffi’r Drwydded Deledu i gefnogi parhad y Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc (YACF) a’r Gronfa Cynnwys Sain (ACF).
Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:
“Rydym yn siomedig iawn o glywed nad oes unrhyw gyllid ar gael ar hyn o bryd i barhau â gwaith yr YACF a’r ACF, fel y cadarnhawyd yn y llythyrau gan DCMS at y BBC ac S4C ynghylch setliad Ffi’r Drwydded Deledu.”
“Mae’r YACF wedi bod o werth mawr i gynhyrchwyr Cymru, rhai ohonynt yn arbenigo mewn cynnwys plant. Mae’r targed o 5% ar gyfer cynnwys mewn ieithoedd brodorol wedi bod o bwys diwylliannol mawr i’r iaith Gymraeg, ac mae wedi cael ei groesawu wrth i’n sector ac S4C gael mynediad i’r Gronfa i gynhyrchu cynnwys newydd ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Rydym felly yn hynod siomedig nad yw’n parhau.”
“Mae ein haelodau wedi ei gwneud yn glir i ni, ynghyd ag argaeledd rhyddhad Treth Teledu i Blant, fod YACF wedi bod yn hanfodol i wrthdroi’r gostyngiad mewn buddsoddiad gan Ddarlledwyr Cyhoeddus yng nghynnwys plant yn genedlaethol. Mae wedi cynyddu lluosogrwydd, gwella ansawdd ac uchelgais cynnwys plant a’r budd diwylliannol cysylltiedig i Gymru, ac ar yr un pryd rhoi hwb economaidd sylweddol i’r sector yng Nghymru. Mae’r meini prawf ariannu hefyd wedi agor y drws i gyfleoedd cyd-gynhyrchu i S4C a chynhyrchwyr Cymru.”
“Mae’r Gronfa Cynnwys Sain hefyd wedi cael ei werthfawrogi gan ein haelodau sy’n cynhyrchu rhaglenni radio ac mae ganddi hefyd darged o 5% ar gyfer ieithoedd brodorol.”
“Bydd TAC yn ysgrifennu at y Gwir Anrhydeddus Nadine Dorries AS, Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i fynegi ein pryderon am ei phenderfyniad i beidio â pharhau â’r cyllid hwn sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddarparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus gwreiddiol. Byddwn yn pwyso am gyllid pellach ar gyfer y dyfodol.”
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW