TAC yn galw ar y Canghellor i gadw Channel 4 fel darlledwr cyhoeddus

20 November 2015

Mae TAC wedi ysgrifennu at y Canghellor George Osborne yn gofyn am gynnal statws Channel 4 yn ddarlledwr cyhoeddus.

Meddai Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick:

“Mae llawer o gwmnïau cynhyrchu yng Nghymru yn gweithio gyda Channel 4. Mae ei  fwriad o weithio gyda’r cenhedloedd a’r rhanbarthau a’i ymrwymiad i  rhaglenni heriol ac arloesol yn ei wneud yn rhan bwysig iawn o sector cynhyrchu teledu bywiog y DU. Mae’n hanfodol ei fod yn parhau i fod o fewn perchnogaeth cyhoeddus a’i fod mewn sefyllfa i roi ei holl adnoddau tuag at gomisiynu cynnwys yn y blynyddoedd i ddod.”

Gallwch ddarllen testun llawn llythyr TAC yma.

Cysylltu â ni