TAC yn No. 10

17 March 2015

Roedd cynrychiolaeth o’r sector annibynnol wedi derbyn gwahoddiad i rif 10 Downing St i dderbyniad Gŵyl Dewi gan y Prif Weinidog David Cameron a’r Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb.

Roedd Cadeirydd TAC Iestyn Garlick, ynghyd ag aelod o Gyngor TAC, Dylan Huws o Gwmni Da, ymhlith y gwahoddedigion, oedd yn cynnwys Prif Weithredwr S4C Ian Jones a Rhodri Talfan Davies o BBC Cymru, a wynebau adnabyddus o fyd chwaraeon, cerddoriaeth a busnes.

Roedd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns yno hefyd, gyda’r AS Guto Bebb, David Davies ac Elfyn Llwyd.

TAC at No 10

Y Prif Weinidog David Cameron yn siarad ag aelod o Gyngor TAC, Dylan Huws, Aled Jones ac Elfyn Llwyd AS.

Cysylltu â ni