TAC yn partneriaethu â chynhadledd cynhyrchu FOCUS 2018
11 September 2018
TAC yn ymuno â rhestr partneriaid diwydiant FOCUS, y Cyrchfan Cynhyrchu Rhyngwladol, ar 4–5 Rhagfyr yn Llundain
Gellir cofrestru nawr
Mae TAC yn falch o gyhoeddi ei bartneriaeth â FOCUS 2018 ar gyfer y digwyddiad rhwydweithio, arddangos a chynadledda i ddiwydiant y cyfryngau.
Yn dilyn digwyddiad hynod lwyddiannus 2017, mae FOCUS yn dychwelyd i’r Ganolfan Cynllunio Busnes (Business Design Centre) yn Llundain am y bedwaredd flwyddyn ar 4–5 Rhagfyr 2018. Mae mynediad yn rhad ac am ddim i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Mae FOCUS yn targedu’r holl ddiwydiannau sgrin creadigol, yn cynnwys ffilm, teledu, hysbysebu, animeiddio a rhyngweithiol, a hwn yw’r unig ddigwyddiad masnach yn y DU lle gellir cyfarfod â gwneuthurwyr cynnwys, comisiynwyr ffilm, gwasanaethau cynhyrchu a darparwyr lleoliadau o dros 60 o wledydd. Bob mis Rhagfyr, mae prif gynrychiolwyr y diwydiant yn dod at ei gilydd yn FOCUS am ddau ddiwrnod o gyfarfodydd, digwyddiadau rhwydweithio a seminarau a allai arwain at lunio partneriaethau a sefydlu perthynas waith tymor hir a chynhyrchiol.
Dros gyfnod y digwyddiad, ceir gwybodaeth am gymhellion ffilmio, lleoliadau a gwasanaethau i ddod â’r gwerth gorau at y sgrin – ar gyfer pob math o gynhyrchiad a chyllideb – o’r cyfnod datblygu i ôl-gynhyrchu. Gellir trefnu cyfarfodydd ymlaen llaw gyda’r sefydliadau sy’n arddangos gan ddefnyddio’r amserlen ar-lein.
Mi fydd dros 100 o siaradwyr arbenigol yn cyfrannu at y rhaglen gynnwys orlawn, gan gyfeirio at y prif gyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant cynhyrchu. Datblygwyd y rhaglen gan ymgynghori â sefydliadau blaenllaw yn y diwydiant, yn cynnwys y British Film Institute, y British Film Commission, Pact, Directors UK, Advertising Producers’ Association, The Production Guild, Creative Skillset, UK Screen Alliance, Creative Europe Media Desk UK a Women in Film and TV.
Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: “Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn bartner diwydiant gyda FOCUS 2018. Mae’r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru’n weithgar iawn wrth chwilio am bartneriaid a chyd-gynhyrchwyr o bedwar ban byd, a bydd hwn yn gyfle ardderchog i aelodau TAC gyfarfod darpar gyd-weithwyr ar gyfer y dyfodol. Mi fydd y rhaglen gynnwys o ddiddordeb mawr hefyd, yn sicr, o ran clywed barn arbenigwyr a rhannu profiadau proffesiynol.”
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr FOCUS 2017, Jean-Frederic Garcia: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu TAC fel partner diwydiant. Bu FOCUS 2017 yn dathlu ei drydedd flwyddyn â niferoedd uwch nag erioed ac adborth arbennig gan y gymuned gynhyrchu. Rydyn ni’n edrych ymlaen at y pedwerydd digwyddiad ym mis Rhagfyr 2018. Mae tîm FOCUS yn gweithio’n galed i greu achlysur mwy o faint a mwy cyffrous ar gyfer pob sector o’r diwydiannau sgrin creadigol, gan barhau i gynnal yr awyrgylch cyfeillgar, croesawgar sydd mor bwysig i’n hymwelwyr a’n harddangoswyr fel ei gilydd.”
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW