TAC yn penodi Sioned Haf Roberts a Sioned Harries
8 July 2021
Mae TAC yn falch o gyhoeddi ein bod wedi penodi Rheolydd Cyffredinol a Swyddog Gweinyddol i ffurfio tîm newydd i weithredu ystod gweithgareddau’r sefydliad.
Mae Sioned Haf Roberts, y Rheolydd Cyffredinol, yn hanu o Borthmadog, a bu’n uwch gynghorydd i’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas am nifer o flynyddoedd, gan gynnwys cyfnod yr Arglwydd Elis-Thomas yn Ddirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Daw Sioned Harries, y Swyddog Gweinyddol, o Sir Gâr yn wreiddiol, ac mae’n gweithio ar hyn o bryd i asiantaeth tai o dan ofal Cyngor Caerdydd.
Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: “Ar ran Cyngor TAC, rydw i’n falch iawn o groesawu’r aelodau staff newydd. Mi fydd profiad eang Sioned Haf Roberts ym maes polisi ac ystod ei rhwydweithiau gwleidyddol yn werthfawr iawn i waith TAC wrth sicrhau bod buddion y sector cynhyrchu’n cael eu cynrychioli ar bob lefel, yng nghyd-destun y gwaith mae’r cynhyrchwyr yn ei wneud i S4C ac i ddarlledwyr cyhoeddus a masnachol.

Sioned Harris
“Mae gan Sioned Harries sgiliau cyfathrebu a threfnu penigamp i hwyluso ei gwaith o gaffael a threfnu cyrsiau hyfforddiant, cefnogi aelodau TAC a chynorthwyo Sioned Haf yn ei rôl hithau. Mae TAC yn hynod ddiolchgar i Luned Whelan am ei gwaith rhagorol fel Rheolydd Gweithredol dros y pedair blynedd diwethaf, ac yn falch iawn o ddweud y bydd Luned yn aros gyda ni’n rhan amser i gefnogi’r tîm newydd wrth iddi hefyd symud at swydd ym maes cyhoeddi llyfrau plant.ˮ
Mi fydd Sioned Haf Roberts yn dechrau ar y gwaith cyn diwedd mis Gorffennaf, a bydd Sioned Harries yn ymuno â hi ddechrau mis Awst.
Am ymholiadau pellach, cysylltwch â Luned Whelan ar luned.whelan@tac.cymru neu 07388 377478.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW