TAC yn briffio’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig

22 January 2016

Ddydd Llun 18 Ionawr, bu pedwar aelod o Gyngor TAC yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig mewn sesiwn a drefnwyd yn arbennig yng Nghaernarfon.

Y pynciau a drafodwyd oedd: y BBC a chomisiynu yng Nghymru, swyddogaeth y rhwydweithiau teledu yn y DU, ariannu S4C a’i hannibynniaeth, a dyfodol y sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru.

Dywedodd Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick: “Roeddem yn croesawu penderfyniad y Pwyllgor i gynnal sesiwn yng Nghymru yn fawr iawn, ac roeddem yn falch o gael cyfle i rai o  aelodau TAC fynegi eu barn ar ddyfodol y diwydiant. Rydym yn edrych ymlaen at weld adroddiad terfynnol y Pwyllgor.”

Ceir copi ysgrifenedig o’r sesiwn yma.

 

Cysylltu â ni